Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

30 Mehefin 2014

 

 

CLA414 - Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer staffio ysgolion a gynhelir.  Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r ddarpariaeth yn Rheoliadau 2006 ar gyfer ymchwilio’n annibynnol i honiadau o natur amddiffyn plant yn erbyn aelodau o staff ysgol. 

Mae Rheoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodi penaethiaid a dirprwyon mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir.  Yn yr un modd, mae Rheoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodi penaethiaid a dirprwyon mewn ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r darpariaethau hynny i adlewyrchu dyfodiad i rym Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau Ffedereiddio”).

Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfansoddiad cyrff llywodraethu a’u gweithdrefnau. Mae’r Rheoliadau presennol yn diwygio rheoliad 55 o Reoliadau 2005 sy’n ymwneud â swyddogaethau disgyblu penodol cyrff llywodraethu.

 

CLA415– Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.  Mae'r diwygiad yn darparu esemptiad o ffioedd mewn perthynas â thriniaeth y daeth yr angen amdani i'r amlwg tra bod person yng Nghymru fel:-

Caiff yr ymadroddion "Teulu Gemau'r Gymanwlad", "Teulu Pencampwriaethau Ewropeaidd IPC Athletics" a "cynrychiolydd NATO neu berson achrededig" eu diffinio yn rheoliadau 1, 2 a 3 yn y drefn honno.